Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn galw am ddileu Erthygl 50 – sef y ddogfen sy’n mynegi bwriad y Deyrnas Unedig o dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r FUW yn dweud y byddai hynny’n caniatau i wledydd Prydain “ail-afael yn yr awenau” a delifro Brexit na fyddai’n bygwth bywoliaeth miliynau o bobol.

Yn dilyn cyfarfodydd gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn Llundain ddoe (dydd Mawrth, Medi 3) mae Llywydd yr undeb, Glyn Roberts, o’r farn bod angen cynllunio er mwyn cefnogi cynuunedau sy’n dibynnu ar ffermio.

“Ar wahân i hynny, rydan ni hefyd wedi pwysleisio fod yna opsiynau eraill,” meddai. “Fe ddylai’r rheiny sy’n frwd dros Brexit fod yn realistig ynglyn â’r peryg o wneud llanast o bethau.

“Mae angen dod allan o Ewrop yn drefnus ac o fewn cyfnod realistig. Mae’r difrod y mae’r strategaeth bresennol yn ei wneud i’n heconomi, ein henw da ledled y byd, ac i’n pleidiau gwleidyddol, yn glir i bawb ei weld.

“A derbyn ein bod yn byw mewn cyfnod mor rhyfedd ac ansicr,” meddai Glyn Roberts wedyn, “dw i’n meddwl bod ein galwad ni i dynnu Erthygl 50 yn ol yn iawn ar hyd y beit.  Mae Brexit caled ar fyr rybudd, yn debyg o wneud difrod i ffermwyr ac i gymunedau gwledig yng Nghymru.”