Mae gwleidyddion wedi bod yn ymateb i’r newyddion fod cannoedd o swyddi yn y fantol yng Nghasnewydd yn dilyn penderfyniad Tata i gau ffatri Orb Electrical Steels.

Wrth gydymdeimlo â’r gweithwyr, mae Delyth Jewell, Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn Ne-ddwyrain Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i geisio achub y swyddi hyn ac mi ddylai ystyried mynd ag e i berchnogaeth gyhoeddus, gan y gallai’r cynnyrch arbenigol mae’r ffatri’n ei gynhyrchu chwarae rhan bwysig yn natblygiad y sector ynni adnewyddadwy strategol hanfodol yng Nghymru,” meddai.

Mae hi hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i drefnu cyfarfod â phenaethiaid Tata er mwyn pwysleisio’u dyletswydd i’r gweithlu.

Mae’n tynnu sylw at y cytundeb pensiynau a gafwyd y llynedd er mwyn sicrhau swyddi, yn ogystal â’r anghyfleustra i weithwyr pe baen nhw’n cael cynnig swyddi mewn ardaloedd eraill.

“Dydi hyn, yn syml iawn, ddim yn bosib i nifer sydd â gwreiddiau dwfn yn yr ardal ac sydd heb yr adnoddau ariannol i symud eu bywydau ar fyr rybudd.”

‘Siomedig eithriadol’

“Mae’n siomedig eithriadol clywed am achos eto fyth o’r posibilrwydd o golli swydd yn ne Cymru,” meddai Russell George, llefarydd busnes y Ceidwadwyr Cymreig, wrth gydymdeimlo â’r gweithwyr.

“Byddai colli 380 o swyddi yng Nghasnewydd yn ergyd ofnadwy i’r rhanbarth a’i chysylltiadau cyflenwi, ac Orb Electrical Steels fyddai’r dioddefwr diweddaraf yn sgil anawsterau busnes ar hyd goridor yr M4.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn glir iawn ynghylch a yw oedi cyn ymateb i broblemau traffig a thrafnidiaeth ar hyd y ffordd hon yn gysylltiedig â phenderfyniad Tata.

“Rwy’n annog y llywodraeth hefyd i ddarganfod unrhyw ffactorau eraill sydd wedi cyfrannu, er mwyn atal problemau busnes rhag lledu yn y rhan brysur a llewyrchus hon o Gymru.”