Mae 380 o swyddi yn y fantol ar ôl i gwmni dur Tata gyhoeddi cynlluniau i gau ffatri Orb Electrical Steels yng Nghasnewydd.

Does “dim ffordd ymlaen”, meddai’r cwmni, wrth i undebau ddweud bod y newyddion yn “ergyd drom”.

Fe fu’r cwmni ar werth ers mis Mai 2018 ac oherwydd nad oes prynwr newydd ar ei gyfer, maen nhw’n dweud nad oedd parhau â’r gwaith yn gynaladwy yn y tymor hir.

Mae undeb Uno’r Undeb yn dweud y byddan nhw’n cefnogi’r gweithwyr sydd wedi’u heffeithio, ac yn galw am sicrwydd gan Tata y bydd swyddi’n cael eu gwarchod.

Ergyd i’r diwydiant dur

“Dyma ergyd arall i ddiwydiant dur y Deyrnas Unedig a’r cymunedau sy’n dibynnu arno,” meddai Rebecca Long Bailey, llefarydd busnes Llafur yn San Steffan.

“Mae polisi dim cytundeb dinistriol y Llywodraeth hon yn bwrw gweithgynhyrchu cyn bod Brexit wedi digwydd hyd yn oed.

“Rhaid i’r Llywodraeth weithio ar frys gydag undebau a’r diwydiant dur i gyflwyno strategaeth frys ar gyfer y sector.”