Mae plentyn yn yr ysbyty yn Lerpwl ar ôl cael ei frathu gan gi.

Cafodd Heddlu’r Gogledd a’r ambiwlans awyr eu galw i eiddo yn ardal Mynydd Isa yn Sir y Fflint am oddeutu 4.45 brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Awst 31).

Cafodd y plentyn ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Plant Alder Hey.

Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad.