Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i lofruddiaeth llanc 17 oed yn y Barri yn chwilio am ddyn 21 o Gaerdydd mewn perthynas â’i farwolaeth.

Cafwyd hyd i gorff Harry Baker yn nociau’r dref am oddeutu 5.50 fore dydd Mercher (Awst 28).

Mae pedwar dyn eisoes wedi’u cyhuddo o’i lofruddio, ac maen nhw i gyd wedi’u cadw yn y ddalfa.

Aeth dau ddyn o’r Barri – Peter McCarthy, 36, a Ryan Palmer, 33 – gerbron ynadon yng Nghaerdydd ddoe (dydd Sadwrn, Awst 31).

Mae disgwyl i Nathan Delafonteine, 32, a Raymond Thompson, 47, fynd gerbron ynadon y brifddinas yfory (dydd Llun, Medi 2).

Mae dyn 61 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, ac mae dyn 21 oed wedi’i ryddhau dan ymchwiliad.

Mae dynes 38 oed a gafodd ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr hefyd wedi’i rhyddhau dan ymchwiliad.

Leon Symons

Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n awyddus i siarad â Leon Symons, 21, mewn perthynas â’r achos.

Maen nhw’n apelio am wybodaeth amdano.

Mae’n dod o ardal Trelai, ond mae ganddo gysylltiad ag ardaloedd y Barri, Rhymni a Rhws.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101, ac maen nhw’n rhybuddio na ddylai unrhyw un fynd ato.