Dylid dileu Erthygl 50 os na fydd ail refferendwm yn cael ei gynnal ar ymadawiad Prydain â’r Undeb Ewropeaidd, yn ôl Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.

Mae’n galw am “opsiwn niwclear” i anghydfod sy’n hollti barn gwleidyddion gwledydd Prydain yn San Steffan, ac sydd wedi gweld y Senedd yn cael ei phrorogio.

Daw sylwadau Adam Price mewn erthygl yn y Sunday Times, lle mae’n galw ar y rhai sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd i frwydro, am fod ganddyn nhw’r “opsiwn niwclear” o gynnal ail refferendwm.

Mae’n galw dileu Erthygl 50 yn “gortyn argyfwng y mae angen i ni fod yn barod i’w dynnu”, gan ddweud y byddai Brexit yn achosi sefyllfa “wenfflam”.

Cynnig brys

Mae Adam Price hefyd yn dweud bod Plaid Cymru yn San Steffan yn paratoi i gyflwyno cynnig brys ar y mater.

Pe bai’n cael sêl bendith y pwyllgor gwaith, fe fyddai’r blaid yn amlinellu ei chefnogaeth i aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd a dileu Erthygl 50.

Byddai’r cynnig wedyn yn mynd at Gynhadledd Hydref y blaid.

“Does dim diben taflu’r llyfr rheolau at y rhai sydd mewn grym oherwydd maen nhw’n creu’r rheolau wrth fynd yn eu blaenau,” meddai Adam Price.

“Mae angen i ni feddwl am ddatrysiadau a fydd yn arwain at ganlyniadau pendant.

“Os caiff pleidleiswyr eu hamddifadu o’r gair olaf ar ganlyniad Brexit trwy refferendwm, yna rhaid i ni fod yn barod i ddileu Erthygl 50.

“Wrth wynebu realiti caled ynghylch pwy a beth ry’n ni yn eu herbyn, rhaid i’r arhoswyr fod ag opsiwn niwclear i gwympo’n ôl arno os daw’n glir y bydd llais cyhoeddus trwy refferendwm yn cael ei wrthod.

“Gall y Deyrnas Unedig ddileu ei bwriad i dynnu’n ôl o’r Undeb Ewropeaidd o un ochr, ac mae’n gortyn brys y mae angen i ni fod yn barod i’w dynnu wrth wynebu’r sefyllfa wenfflam y byddai ymadawiad Brexit yn ei achosi.”