Mae protestiadau wedi eu trefnu ledled y wlad yfory er mwyn gwrthwynebu cynllun Llywodraeth Prydain i ddiddymu’r Senedd am gyfnod fis nesaf.

Bydd ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu cau’r Senedd am 25 diwrnod yn dod at ei gilydd yfory ym Mangor ac Aberystwyth gyda phrotestio yng Nghaerdydd ddydd Mawrth nesaf.

Dirprwy Faer Bangor sydd wedi trefnu’r brotest ym Mangor yfory, fydd yn dechrau am 11am ger y cloc.

Dywedodd  Owen Hurcum o Blaid Cymru fod “Boris Johnson a’r Llywodraeth wedi lansio ymosodiad ar ddemocratiaeth y wlad hon, a wnawn ni fel pobl ddim eistedd yn ôl a derbyn yr hyn maen nhw yn ceisio ei wneud”.

Er ei fod yn cydnabod fod atal Brexit yn rhan o fwriad y brotest, mae Owen Hurcum yn dweud mai “mater o egwyddor yw hyn, dyw’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ceisio ei wneud ddim y dderbyniol ac mae’n rhaid i bobl y Deyrnas Unedig sefyll mewn undod er mwyn amddiffyn a gwarchod ein proses ddemocrataidd.”

200 yn protestio yng Nghaernarfon

Roedd oddeutu 200 o bobl yn protestio i’r un diben ar faes Caernarfon neithiwr  gyda Siân Gwenllïan AC a’r canwr Bryn Fôn yn siarad.

Ac mae trefnwyr yn disgwyl y bydd cannoedd o filoedd o bobl yn protestio ar hyd Prydain fel ymateb i gynlluniau’r Prif Weinidog i brerogio’r Senedd.

Mae mudiad Momentum wedi galw ar aelodau i feddiannu pontydd ac atal traffig ar lonydd fel rhan o’r protestio.

Yn ôl Owen Hurcum mae’r ffaith fod protestiadau yn cael eu trefnu ledled y wlad yn profi fod gan yr ymgyrchwyr y potensial i roi terfyn i gynlluniau Boris Johnson.

Ond mae’r Prif Weinidog yn dadlau mai’r rheswm tu ôl i brerogio’r Senedd yw rhoi cyfle i’r Llywodraeth amlinellu ei “agenda hynod o gyffrous”.

Yn ôl Boris Johnson does dim byd anarferol am Lywodraeth newydd yn diddymu’r Senedd.