Bydd tri heddwas ychwanegol yn ymuno â thîm arbennig sy’n arbenigo mewn troseddau gwledig yn y gogledd.

Mae hynny’n golygu y bydd niferoedd y tasglu o dan arweiniad y rheolwr, Rob Taylor, yn cynyddu i gyfanswm o 11 swyddog.

Yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, mae angen tîm o’r fath yn y gogledd gan ei bod yn “ardal wledig enfawr”.

Bydd un o’r swyddogion newydd yn gyfrifol am blismona ardal Meirionnydd a’r ffin â Dyfed-Powys, meddai wedyn.

Angen mwy o gapasiti

“Er ein bod yn llwyddiannus iawn wrth dargedu’r troseddwyr sy’n cyflawni ystod o droseddau o rwydo moch daear i ddwyn tractorau, beiciau cwad a da byw, rydym yn teimlo bod angen mwy o gapasiti arnom,” meddai.

“Mae hwn yn faes lle mae Gogledd Cymru yn arwain y ffordd ac mae’r tîm dan arweiniad Rob Taylor yn gwneud gwaith gwych ac yn cael ei gydnabod am y ffordd y maen nhw’n delio efo troseddau gwledig a materion bywyd gwyllt… mae’n hanfodol i ni barhau i’w cefnogi.”

“Newyddion rhagorol” i ffermwyr

Mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad.

“Bob blwyddyn mae troseddau gwledig yn costio miliynau o bunnoedd ac yn achosi pryder ofnadwy i ffermwyr a busnesau gwledig,” meddai Glyn Roberts.

“Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn arwain y ffordd wrth sicrhau bod troseddu yng nghefn gwlad yn llai deniadol i ddrwgweithredwyr.

“Mae’r ffaith y bydd y tîm troseddau gwledig bellach yn dyblu mewn maint, oherwydd cynnydd mewn cyllid, yn newyddion rhagorol.”