Jane Hutt
Bydd fforwm trafod hil newydd yn cael ei sefydlu mis Chwefror nesaf er mwyn cynrychioli y prif sefydliadau hil yng Nghymru a mynegi barn ar bolisiau Llywodraeth Cymru all effeithio yn uniongyrchol arnyn nhw.

Fe fydd yr aelodau hefyd yn cynghori gweinidogion y llywodraeth am eu dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

Wrth annerch digwyddiad yng Nghaerdydd i nodi Mis Cenedlaethol Hanes Croenddu, dywedodd y Gweinidog Cydraddoldeb, Jane Hutt, ei bod eisiau sicrhau bod pawb, waeth beth fo eu cefndir, yn gallu mateisio ar yr un cyfleoedd.

“Fe fydd aelodau’r fforwm yn cyfrannu i ddatblygu strategaeth genedlaethol ar gydraddoldeb a sicrhau bod gan y sefydliadau hynny sydd â ddiddordeb penodol mewn materion yn ymwneud â hil, gyfle i fynegi barn ar faterion perthnasol.

Bydd y fforwm yn cyfarfod bob yn ail flwyddyn ac ni fydd yr aelodau yn derbyn tâl na threuliau.