Digrifwr sy’n perfformio’n gyson yng Nghymru ac a raddiodd o Brifysgol Cymru Casnewydd yn 2012 yw enillydd sioe gomedi orau Gŵyl Ffrinj Caeredin eleni.

Wrth gyhoeddi mai Jordan Brookes sy’n mynd â’r brif wobr am ei sioe ‘I’ve Got Nothing’, dywedodd Stephen Fry fod yr ŵyl yn “eithriadol o gyffrous”.

Mae’r wobr wedi’i noddi gan y sianel deledu Dave, ac mae’n dathlu digrifwyr profiadol a newydd-ddyfodiaid.

Ar ôl ei fuddugoliaeth, dywed Jordan Brookes ei fod yn deimlad “anhygoel” cael ennill y wobr o £10,000.

“Dw i wir ddim yn meddwl ’mod i’n deilwng o hyn o gwbl, ac roedd yn dipyn o anrhydedd cael bod yn rhan o ystod mor eang ac amrywiol o bobol yn nhermau cefndir ac arddull, ac roedd yn deimlad braf cael bod yn rhan o’r rhestr a dw i wir yn ei chael yn anrhydedd.”

Jordan Brookes ddaeth i frig gwobrau WUSA (Welsh Unsigned Stand-Up Award) yn 2012.