Mae’r heddlu’n ymchwilio i sawl digwyddiad arfog yng nghanol dinas Abertawe, gan ddweud eu bod nhw’n credu bod cyswllt rhyngddyn nhw.

Cawson nhw eu galw toc cyn 9.10 fore heddiw (dydd Sadwrn, Awst 24) yn dilyn adroddiadau bod yna ddigwyddiad ger bwyty McDonald’s yn Sgwâr y Castell yn ymwneud â fan Loomis.

Dywed llygad-dystion iddyn nhw weld fan yn taro dyn cyn i’r cerbyd adael y safle.

Cyn hynny, cafodd dyn oedd yn cario bos ei fygwth gan ddau unigolyn oedd wedi neidio o gerbyd, a’r gred yw fod ganddyn nhw gyllyll.

Datganiad yr heddlu

Mae’r heddlu’n dweud iddyn nhw gael eu galw’n wreiddiol i ladrad yn Stryd Rhydychen, lle cafodd dyn ei fygwth gan ddyn arall wnaeth ddianc gyda bocs arian.

Cafodd dyn ei gludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad hwnnw.

Ychydig funudau’n ddiweddarach yn siop Londis ar Stryd Norfolk, fe wnaeth dyn ddianc yn waglaw yn dilyn ymgais i ladrata.

Ni chafodd dynes y siop ei hanafu yn y digwyddiad hwnnw, yn ôl yr heddlu.

Mae cerbydau’r heddlu’n dal yng nghanol y ddinas y prynhawn yma.

Mae sawl stryd ynghau o hyd rhwng canol y ddinas ac ardal Bryn Siriol