Mae deiseb sy’n galw am ddiswyddiad aelod o Gyngor Tref Llanrwst yn sgil sylwadau a wnaeth am yr iaith Gymraeg, yn magu momentwm ar y cyfryngau cymdeithasol, gan dderbyn dros 100 o lofnodion o fewn oriau i’w sefydlu.

Mae’r Cynghorydd Aldean Channer wedi gwrthod ymddiheuro ar ôl honni mewn negeseuon ar Facebook mai “dim ond 2%” o boblogaeth Cymru sy’n siarad Cymraeg ac mai Saesneg yw “mamiaith” ynys Prydain.

Mae’r ddeiseb yn Saesne ar www.change.org, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i’w diswyddo o fod yn aelod o’r cyngor tref, wedi cael ei sefydlu gan Martin Shaw, sy’n cyhuddo’r cynghorydd Ceidwadol o ddangos “diffyg parch” tuag at y Gymraeg.

“Mae ei diffyg wybodaeth a dealltwriaeth yn amlwg yn dangos nad oes ganddi’r gallu i gynrychioli cymuned Gymraeg”, meddai’r ddeiseb.

“Mae pobol Cymru yn galw am ei diswyddo o’i swydd fel cynghorydd tref Llanrwst ar unwaith.”

Mae’r Cynghorydd Aldean Channer wedi wfftio’r ddeiseb gan nad yw hi “wedi mynd yn groes i’r côd ymddygiad”, meddai.

Mae Llywodraeth Cymru wedyn wedi dweud nad yw hyn yn fater iddyn nhw.