Mae Heddlu De Cymru yn chwilio am dystion i ddawain ffordd yng nghanol Caerdydd neithiwr (nos Iau, Awst 22).

Fe ddigwyddodd yn Wood Street toc cyn 11.30yh, pan fu dyn ar gefn beic mewn gwrthdrawiad â char.

Mae’r seiclwr wedi diodde’ mân anafiadau, ac mae’n cael ei drin yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Mae dyn 22 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ac mae yn y ddalfa ar hyn o bryd.