Mae’r heddlu yn dal i ymchwilio i’r achos o drywanu ar Stryd yr Eglwys, Y Rhyl, ar Awst 13, pan gafodd dyn lleol, 43, ei anafu’n ddifrifol.

Yn dilyn y digwyddiad, fe gafodd tri dyn eu harestio, gydag un llanc o Lannau Merswy yn cael ei amau o geisio llofruddio, a dau ddyn o Ddinbych yn cael eu hamau o gynorthwyo troseddwr.

Erbyn hyn, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dau o’r dynion wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad.

Mae’r trydydd dyn wedyn wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth gydag amodau llym, sy’n cynnwys gorchymyn i beidio â dychwelyd i ardal y gogledd.

“Mae ein ymchwiliadau’n parhau, a hoffwn sicrhau’r cyhoedd ein bod ni’n credu bod y digwyddiad hwn yn ddigwyddiad unigol,” meddai’r Uwcharolygydd, Sian Beck.

“Yn y cyfamser, rydym yn parhau i gadw presenoldeb gweladwy yn yr ardal leol.”

Mae’r dioddefwr yn dal i fod mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty.