Mae tri o bobol, yn cynnwys dau o blant, wedi cael eu hanafu ar ôl i gar droi drosodd ar ffordd yr A55 ger Abergwyngregyn, Gwynedd.

Fe gafodd y ddau ifanc eu cludo mewn hofrennydd i Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl yn dilyn y gwrthdrawiad toc wedi 8.30yb heddiw (dydd Mercher, Awst 21).

Cafodd y trydydd person ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, yn ôl Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Does dim gwybodaeth hyd yn hyn ynglŷn â chyflwr y tri.

Mae lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos hofrennydd y gwasanaeth ambiwlans ar y safle, a hynny ger car arian bychain sydd wedi troi drosodd ar ei do ynghanol yr A55.

Roedd y gwasanaeth tân ac achub, yr heddlu a swyddogion yr ambiwlans yn bresennol hefyd, a bu oedi i draffig am filltiroedd wrth iddyn nhw gau ochr orllewinol y ffordd am ddwy awr.

Mae’r ochr honno bellach wedi ailagor, er bod tagfeydd yn dal i fodoli yn yr ardal, yn ôl Traffig Cymru.