Mae dyn, 26, wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â digwyddiad ar faes pebyll ger Bethel, Caernarfon.

Cafodd pedwar person – dau ddyn a dwy ddynes – eu hanafu yn y digwyddiad yn ystod yr oriau mân fore Llun (Awst 19) pan wnaeth car daro pebyll wrth yrru ar faes gwersylla Rhyd y Galen.

Cafodd un o’r gwersyllwyr ei hanafu’n ddifrifol a’i chludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor, lle mae’n parhau i fod mewn cyflwr difrifol. Mae’r tri pherson arall bellach wedi gadael yr ysbyty.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae Jake Waterhouse, sy’n dod o ardal Manceinion, wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol trwy yrru’n beryglus.

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o yrru’n beryglus, gyrru cerbyd heb yswiriant, gyrru’n groes i amodau trwydded, ac am fethu â darparu sampl o anadl er mwyn ei brofi.

Mae’r ail ddyn a gafodd ei arestio bellach wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.

Mae disgwyl i Jake Waterhouse ymddangos gerbron Llys Ynadon Llandudno ddydd Mercher (Awst 21).