Mae’r gwasanaeth tân ac achub yng ngogledd Cymru yn ymateb i dân sylweddol mewn becws yn ardal Wrecsam.

Fe gafodd diffoddwyr tân eu galw toc wedi 8.40yb heddiw (dydd Llun, Awst 19) yn dilyn adroddiad am dân ar safle Village Bakery ar Ffordd Coed Aben, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, mae’r adeilad erbyn hyn ar dân “yn llwyr”, ac mae’r fflamau wedi lledu i floc o swyddfeydd cyfagos.

Mae wyth o beiriannau tân ynghyd ag offer eraill yn bresennol ar y safle, medden nhw, gan gynnwys criwiau o Lannau Dyfrdwy, Bwcle, Llangollen, Caer, y Rhyl a Chroesoswallt.

Y cyngor i’r cyhoedd yw cadw draw o’r safle, ac mae’r awdurdodau hefyd yn eu cynghori i gadw eu drysau a’u ffenestri ar gau oherwydd y mwg.

Nid oes unrhyw adroddiadau bod unrhyw un wedi’u hanafu yn y digwyddiad.