Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yn ymweld â Machynlleth ym Mhowys heddiw (dydd Gwener, Awst 16) lle mae disgwyl iddo amlinellu ei gynlluniau ar gyfer creu “chwyldro diwydiannol gwyrdd,” gan drawsnewid cymdeithas a chreu swyddi.

Mae’n cyhuddo Llywodraeth gwledydd Prydain o fethu a mynd i’r afael a newid hinsawdd, ac yn dweud fod Cymru yn arwain ym maes ynni gwyrdd.

Fe leisiodd Jeremy Cobryn ei gefnogaeth i gynlluniau fel morlyn llanw Bae Abertawe cyn ei ymweliad a’r Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth.

Yn ôl yr arweinydd Llafur fe ddylid dilyn esiampl Llywodraeth Cymru ar effeithlonrwydd ynni ac wrth ddatgan argyfwng hinsawdd.

Dywedodd Llafur hefyd fod penderfyniad y Llywodraeth i ganslo rhaglen inswleiddio – y Cynllun Ffrynt Cynnes – yn 2013 wedi costio cyfanswm o £3.7 biliwn i aelwydydd mewn biliau uwch.

O’i gymharu, mae Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur wedi gwario mwy na £240m ers 2011 i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi trwy ei chynllun Cartrefi Cynnes.

“Budd i’r dosbarth gweithiol”

Mae penderfyniad y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol i ganslo’r Cynllun Ffrynt Cynnes “wedi bod yn drychineb,” meddai Jeremy Corbyn, gan gostio miliynau i bobol a niweidio ein hamgylchedd.

“Bydd y llywodraeth Lafur nesaf yn troi’r dull aflwyddiannus hwn ar ei phen gyda Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, creu cannoedd ar filoedd o swyddi gwyrdd da ym mhob rhanbarth a chenedl,” meddai.

“O osod paneli solar, inswleiddio cartrefi, adeiladu Morlyn Llanw Bae Abertawe, ehangu ynni solar a gwynt a dod â’r Grid Cenedlaethol i berchnogaeth gyhoeddus, bydd Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd Llafur o fudd i bobl dosbarth gweithiol trwy dorri biliau ynni.

“Fe fydd hi’n creu swyddi da mewn diwydiannau newydd, gwyrdd ac ymladd yr argyfwng hinsawdd.”