Dyma’r nodweddion sydd bellach wedi disodli bod yn dda wrth gwblhau gwaith DIY a bod yn rhamantus, yn ôl ymchwil sydd wedi cael ei gomisiynu gan y cwmni My Nametags.

Yn ôl yr ymchwil, mae’r gallu i goginio, bod â theulu cariadus a bod yn dda wrth gwblhau gwaith tŷ hefyd yn rhan o fod yn llwyddiannus fel dyn yn yr unfed ganrif ar hugain.

Serch hynny, mae nifer cynyddol o ddynion yn dweud eu bod nhw’n cael cymorth eu tadau i gwblhau tasgau traddodiadol y dyn, gan gynnwys codi silffoedd a newid teiars y car.

Ac mae dynion ifanc o Gymru’n cyfaddef hefyd nad ydyn nhw’n dda wrth reoli arian a thrafod busnes o’u cymharu â tadau.

A dydi dynion ifainc o Gymru ddim yn hyderus ychwaith eu bod nhw’n gwisgo cystal â’u tadau – yr unig wlad o blith gwledydd Prydain sy’n cyfaddef hynny.

Barn y merched

Dywed merched o Gymru y byddai’n well ganddyn nhw pe bai eu dynion yn dda am fod yn rhamantus, bonheddig a thrwsiadus.

Serch hynny, mae 89% o Gymry’n dweud eu bod nhw’n well na’u tadau am goginio, siopa bwyd, golchi dillad neu wneud gwaith tŷ.

Mae mwy na 43% o’r Cymry’n dweud bod y gallu i fynegi teimladau am iechyd meddwl yn hanfodol.

Dywed 48% fod y gallu i fod yn dad da yn hanfodol, ynghyd â bod â moesau gwych (44%), bod yn hapus (41%) a bod yn hyderus (35%).

Rolau traddodiadol

Byddai 41% o ddynion yn hapus i gael eu galw’n “ŵr tŷ” pe baen nhw’n gadael eu gwaith i ofalu am y teulu. Ond mae 33% yn dweud nad ydyn nhw’n hoffi’r termau “gŵr neu wraig tŷ” am eu bod nhw’n dermau hynafol.

Dywed 17% fod y term “gŵr tŷ” yn gwneud iddyn nhw deimlo’n fwy grymus fel dyn. Ar y llaw arall, 46% o fenywod sy’n hoffi’r term “gŵr tŷ”, a 54% ddim yn ei hoffi.

Dywed mwy na 50% o fenywod fod y term “gwraig tŷ” yn hynafol, rhywiaethol ac yn peri embaras.

Dynion cyflawn, yn ôl y Cymry

Yn ôl y Cymry, David Attenborough a Barack Obama yw’r enghreifftiau gorau o’r Cymro cyflawn.

Yn dynn ar eu sodlau mae Phlip Schofield a Bill Gates.

Hefyd ar y rhestr mae Tyson Fury, Peter Andre, Drake a Nigel Farage.