Colli Robyn Léwis, barnwr a chyn-Archdderwydd, yn 89 oed

Diweddarwyd  

Robyn Lewis yn 2016

Llun: Karen Owen

Bu farw’r barnwr a’r Prif Lenor, Robyn Léwis (Robyn o Lŷn) yn 89 oed.

Ef oedd y Prif Lenor cyntaf i ddod yn Archdderwydd Cymru, a’r cyntaf i ymgyrchu i gael ei ethol i’r swydd.

Fe fu’n ymgeisydd yn enw’r Blaid Lafur yn Nyffryn Clwyd yn 1955, cyn troi at Blaid Cymru yn y 1960au a dod yn is-Lywydd arni. Yn rhinwedd ei swydd yn gyfreithiwr yn nhref Pwllheli, fe gynrychiolodd nifer o ymgyrchwyr iaith am eu rhan mewn protestiadau ac achosion unigol.

Fe enillodd y Fedal Ryddiaith gyda’i gyfrol o ysgrifau, Esgid yn Gwasgu, yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Lliw 1980. Fe fu’n Archdderwydd rhwng 2002 a 2005, gan wneud datganiadau gwleidyddol iawn o’r Maen Llog.

Ei gymwynas fwyaf, mae’n debyg, oedd ei waith yn bathu termau cyfreithiol yn Gymraeg, ac mae ei gyfrol sylweddol, Geiriadur y Gyfraith, yn gosod y safon yn y maes.

Meddwl craff a miniog

Mewn teyrnged, mae Gorsedd Cymru wedi disgrifio Robyn Léwis fel “cymeriad lliwgar a pharod ei farn”.

“Roedd ei feddwl yn graff ac yn finiog, a’i gyngor yn ddoeth ac yn werth ei gael,” meddai llefarydd ar ran y corff. “Roedd ei arbenigedd ar fyd y gyfraith yn gaffaeliad mawr i’r Orsedd, ac roedd ganddo allu ardderchog i drin geiriau.

“Roedd yn ymfalchïo yn ei rôl fel cyn-Archdderwydd ac yn mwynhau bod yn rhan o bob seremoni a digwyddiad Gorseddol.  Gwelwyd ei golli’n arw ar y llwyfan yn Sir Conwy’r wythnos ddiwethaf.

“Rydym yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at ei deulu, ac yn cofio am ei gyfraniad arbennig i fyd llenyddiaeth yma yng Nghymru ac i’r Orsedd a’i gwaith.”

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol hefyd cyhoeddi teyrnged, gan ddiolch iddo am ei “gyfraniad oes” i’r brifwyl.  

Cymru

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Cofio Eirwyn Pontsiân – darlith Lyn Ebenezer