Ar ddydd Gwener y brifwyl yn Llanrwst (Awst 9), fe gyhoeddodd yr Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd, oddi ar lwyfan y pafiliwn y byddai’r Orsedd yn arddel yr enw ‘Gorsedd Cymru’ o hyn ymlaen.

Mae’r mater wedi derbyn ymateb cymysg ar y cyfryngau cymdeithasol. Tra bo rhai’n dweud bod disodli’r hen enw yn troi cefn ar hanes, mae eraill yn canmol y penderfyniad, gan ddweud bod ystyr yr enw ‘Prydain’ bellach yn cael ei gysylltu â “brand tocsig”.

Ond mae Christine James wedi cadarnhau wrth golwg360 bod yr enw gwreiddiol yn dal i fodoli yng nghyfansoddiad yr Orsedd, ac mai mater o “ffurfioli sefyllfa sydd eisoes yn bodoli” yw arddel yr enw ‘Gorsedd Cymru’.

“Dyw[‘r enw gwreiddiol] ddim wedi cael ei ddileu, ac mae eisiau pwysleisio hynny,” meddai’r cofiadur. “Dydyn ni ddim yn trio dileu hanes.

“Mae’r enw [Gorsedd Cymru] eisoes yn cael ei ddefnyddio. Mewn gwirionedd, ffurfioli sefyllfa sydd eisoes yn bodoli ydym ni. Hynny yw, mae’r Orsedd yn cael ei chyfeirio ati yn aml iawn fel ‘Gorsedd Cymru’.

“Cam gwag”

Ymhlith y rhai sy’n feirniadol o’r Orsedd ynghylch y penderfyniad diweddaraf yw’r academydd, Simon Brooks, sy’n dweud bod y newid wedi cael ei gyflwyno yn “ddirybudd, heb drafodaeth”.

https://www.facebook.com/seimon.brooks/posts/137467957471427

Wrth siarad â golwg360, dyw Simon Brooks ddim yn derbyn rhesymeg yr Orsedd tros newid, ac mae’n galw arnyn nhw i adfer yr hen enw.

Mae hefyd yn dweud y dylai “trafodaeth gyhoeddus” fod wedi cael ei chynnal, gan fod newid enw ar sefydliad sy’n rhan o hanes Cymru yn “fater i bawb sy’n siarad Cymraeg,” meddai.

“Dw i ddim wedi gweld trafodaeth yn y Wasg – does yna ddim trafodaeth wedi bod,” meddai. “Fe ddylsai hi fod wedi cael ei thrafod.

“Dyw hi ddim wedi cael ei thrafod, felly rydan ni’n cael y drafodaeth nawr, ac mae’r farn gyhoeddus yn glir: rydan ni eisiau cadw’r hen enw…”

Rhybudd wedi ei roi am y newid

Mewn ymateb, dywed Christine James na chafodd ymgynghoriad ei gynnal, ond ychwanega fod aelodau’r Orsedd wedi derbyn “rhybudd” am y newid ddeng diwrnod cyn cyfarfod cyffredinol y Bwrdd, a gafodd ei gynnal yr wythnos ddiwethaf ar Faes y brifwyl yn Llanrwst.

“Fe gynigiwyd yr enw mewn cyfarfod o Fwrdd yr Orsedd, ac roedd hynny fis Hydref diwethaf,” meddai Christine James. “Fe drafodwyd y peth wedyn yn llawn gan y Bwrdd ym mis Ebrill, a chytunwyd y newid trwy fwyafrif.

“Fe gafwyd geiriad a aeth eto i’r Bwrdd yng nghyfarfod yr Eisteddfod, ac fe basiwyd hynny eto gyda mwyafrif llethol yn y cyfarfod cyffredinol.

“Ac wedyn fe aethpwyd â’r peth ymlaen i Lys yr Eisteddfod ac eto fe basiwyd y peth gyda mwyafrif llethol.”