Fe lwyddodd gyrrwr i ddianc o’i gerbyd ar ôl iddo fynd oddi ar y ffordd ac i mewn i’r môr yn ardal Y Mwmbwls ger Abertawe.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc ar ôl 6yb heddiw (dydd Mawrth, Awst 13) yn sgil adroddiad bod car wedi mynd dros glogwyn ym Mae Limeslade.

Yn ôl Gwylwyr y Glannau, roedd gyrrwr y cerbyd wedi llwyddo i ddianc a nofio i’r lan pan gyrhaeddodd nhw.

Ar ôl cael ei drin gan barafeddygon, fe gafodd ei gludo i’r ysbyty er mwyn derbyn triniaeth bellach, medden nhw wedyn.

https://twitter.com/MumblesRescue/status/1161184073496367104