Fe ddaeth cadarnhad yn ystod prifwyl Sir Conwy yr wythnos ddiwethaf, fod Cyngor Gwynedd bellach wedi gwahodd yn ffurfiol yr Eisteddfod Genedlaethol i’r ardal ymhen dwy flynedd.

Ond, yn wahanol i’r awgrym y gallai hon fod yn wyl agored a di-ffens ar y Maes yn nhref Caernarfon, mae’n ymddangos mai’r ardal rhwng Porthmadog a Phwllheli sy’n cael ei ffafrio gan y trefnwyr.

Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, wedi addo cyhoeddiad swyddogol “y mis nesaf” (Medi), ond mae golwg360 yn deall nad tre’r Cofis fydd cartref y brifwyl yn 2021.

Mae swyddogion wedi ymweld â thiroedd yn ardal Afonwen ac Abererch, ar fin priffordd yr A497, ym mis Mai eleni – cyn bod y trefnwyr yn gallu cadarnhau lle’n union y byddai safle prifwyl Llanrwst.

A’r teimlad yw mai “tro Dwyfor” – sef un o’r tair hen ardal o fewn Gwynedd ynghyd ag Arfon a Meirion – yw hi y tro nesaf.

Sir fawr

Mae sir Gwynedd yn ymestyn o Aberdaron yn y gorllewin, i gyrion Bangor yn y dwyrain; ac i lawr mor bell â Thywyn yn yr hen Sir Feirionnydd.

Roedd mynd ä hi i’r Faenol yn 2005 yn benderfyniad dadleuol, gyda thrigolion a threthdalwyr Penrhyn Llŷn, yn enwedig, yn gwrthwynebu’r safle ar gyrion Bangor.

Dydi’r brifwyl ddim wedi ymweld ag ardal Dwyfor ers iddi gael ei chynnal yn nhref Porthmadog yn 1987.

Cyn hynny, oddi fewn i’r Wynedd bresennol, fe fu ar ymweliad ä threfi Cricieth yn 1975; Caernarfon yn 1979; Pwllheli yn 1955; a Dolgellau yn 1949.