Mae undeb ffermwyr yn galw am weithredu yn wyneb y cwymp sylweddol ym mhris cig eidion yr haf hwn.

Yn ôl NFU Cymru, fe gwympodd y pris 11.4% y mis diwethaf o gymharu â’r pris ym mis Mehefin y llynedd.

Mae’r undeb yn galw ar adrannau’r llywodraethau, byrddau lefi, ffermwyr, proseswyr cig, y gwasanaeth bwyd a masnachwr i gydweithio er mwyn gwella’r farchnad.

Maen nhw yn enwedig o bryderus ynglŷn â’r buddsoddiad gwerth €100m mae cynhyrchwyr cig eidion Iwerddon wedi ei dderbyn er mwyn paratoi ar gyfer Brexit, a’r effaith fydd hynny’n ei gael ar y farchnad yng ngwledydd Prydain.

‘Angen gweithredu ar draws y sector’

Ar ddechrau Sioe Môn, mae Cadeirydd NFU Cymru ar Ynys Môn, Brian Brown, wedi mynegi pryder ynghylch dyfodol y farchnad cig eidion.

“Mae yna lawer o sôn am gynaliadwyedd cynhyrchu cig eidion y dyddiau hyn,” meddai.

“Ond dewch i/ni fod yn hollol onest, nid cynaliadwyedd yw ein pryder yma, ond dyfodol cynhyrchu cig eidion yn Ynys Môn ac yng ngweddill y wlad.

“Mae angen gweithredu ar draws y sector cyflenwi ar unwaith er cadw’r diwydiant rhag y dibyn,” medai wedyn.

“Wrth i’r hydref agosáu, mae mwy a mwy o wartheg o Fôn, Mam Cymru, yn barod i gael eu gwerthu, felly dewch inni wneud yn siŵr bod cynhyrchwyr cig eidion yn cael prif teg ar gyfer y cynnyrch PGI hwn.”