Mae cyn-hyfforddwr athletau o dde Cymru wedi cael ei garcharu am saith mlynedd a hanner am gam-drin merched yn rhywiol mewn clwb athletau. 

Yn Llys y Goron Winchester heddiw (dydd Llun, Awst 12) fe blediodd Philip Banning o Benhow ger Casnewydd yn euog i 18 cyhuddiad o ymosod yn erbyn pedair merch – tair o dan 16 oed ac un oedd yn 11 oed, yn y 1970au hwyr a’r 1980au cynnar. 

Fe fydd Philip Bannig, 68, ar gofrestr troseddwyr rhyw am weddill ei oes.

Dywedodd yr erlynydd Tim Moores wrth y llys fod Philip Banning yn targedu pobol ifanc oedd yn “ffefrynnau” iddo, a’r rhai a roddodd “driniaeth arbennig” iddynt wrth weithio fel hyfforddwr i Glwb Athletau Andover. 

Byddai’r hyfforddwr yn cynnal partïon yn ei gartref lle byddai’n mynd â rhai o’r merched i mewn i “ystafell dywyll” yr oedd wedi’i chreu lle byddai’n eu cusanu a’u cyffwrdd.

Roedd o hefyd wedi cyffwrdd ac ymosod yn rhywiol ar y merched wrth yrru’r athletwyr ifanc adref yn ei gar ac yn ei gartref, clywodd y llys. 

Wrth ddedfrydu Philip Banning, dywedodd y Barnwr Keith Cutler: “Rwy’n hollol siŵr eu bod nhw wedi’ch addoli chi fel athletwr ifanc adnabyddus iawn, a beth oeddech chi’n ei wneud i’r pedair hynny oedd meithrin perthynas amhriodol, gan gam-drin eich safle, eu defnyddio fel eich rhyddhad rhywiol.”