Alwyn Gruffydd
Mae Cadeirydd Cyngor Tref Porthmadog, sydd hefyd yn Is-Gadeirydd Pwyllgor Iaith Gymraeg Cyngor Gwynedd, wedi dweud bod yna “ddiwylliant gwrth-Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru”.

Mae’n bosibl iawn na fydd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn bresennol yn agoriad ffordd osgoi Porthmadog, Tremadog a  Minffordd ddydd Llun.

Mae’n flin ar ôl iddo dderbyn gwahoddiad uniaith Saesneg i’r agoriad gan Lywodraeth Cymru. 

Fe ddywedodd Alwyn Gruffydd wrth Golwg360 ei fod wedi derbyn dau lythyr yn yr un wythnos gan Lywodraeth Cymru. Un ynglŷn ag agor y ffordd osgoi a’r llall am fusnes y groesfan ar draws y ffordd osgoi. Roedd y ddau yn Saesneg, meddai.

Ers hynny, mae wedi derbyn ymddiheuriad dwyieithog dros y We  gan y Llywodraeth am wahoddiad yr agoriad ffordd osgoi. Mae’r Saesneg yn gyntaf a’r Gymraeg wedyn, meddai.

“Y broblem ydi, dim ond unwaith y mis mae’r Cyngor yn cyfarfod,” meddai cyn dweud bod y Cyngor eisoes wedi pleidleisio o chwe phleidlais i bump o blaid boicotio’r digwyddiad ar ôl derbyn y gwahoddiad un iaith Saesneg.

Y prynhawn yma fe gafodd Golwg360 sylw gan Lywodraeth Cymru ar y mater yn Gymraeg, sef: “Gwnaeth swyddogion ddanfon gwahoddiad uniaith Saesneg allan i wahoddedigion i agoriad ffordd osgoi Porthmadog.  Rydym yn ymddiheuro am hyn a byddwn yn cysylltu â’r gwahoddedigion i gyd er mwyn pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau iechyd hirdymor a hybu ei defnydd.”

‘Straeon iaith’

Dros ddegawd ers dyfodiad y Cynulliad, mae Alwyn Gruffydd wedi ei siomi fod diffyg gwasanaeth yn yr iaith Gymraeg dal yn broblem.

“Ro’ ni’n darllen papurau newydd lleol a Golwg hefyd ddoe.  ‘Dw i’n siŵr i mi gyfri pump os nad chwe stori iaith yno,” meddai.

“Mi fasa rhywun yn disgwyl erbyn rŵan na fydden ni angen y math yma o beth. Mae datganoli wedi bod ers degawd dda a Phlaid Cymru wedi bod mewn grym am hanner hynny. Mi fydda rywun yn disgwyl erbyn rŵan na fyddai angen y math yma o lol.

“Rhyw glarc sy’n cael y bai. Ond, nid y clarc sydd ar fai – gweithdrefn sydd ar fai,” ychwanegodd gan gyfeirio at sawl achos gwahanol yn y cyfryngau gan gynnwys stori Geraint Jones o Drefor yn Golwg yn methu â chael ffurflen uniaith Gymraeg ar gyfer ei briodas, a stori arall am ysgol yn Neiniolen gafodd wahoddiad i gwrs uniaith Saesneg wedi’i drefnu gan Gyngor Gwynedd.

“Mae yna ddiwylliant wrth Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru ac o fewn sefydliadau,” meddai Alwyn Gruffydd. “Mae gen ti feddalwedd  gyfrifiadurol rŵan – i gyd yn deillio o Lundain, yn Saesneg. Fedri di ddim gwneud cais cynllunio rŵan yn Gymraeg ar y We”.

Comisiynydd Iaith – ‘prysur iawn’

Mae Alwyn Gruffydd yn rhagweld y bydd y “Comisiynydd Iaith yn brysur iawn”.

“Dw i’n gobeithio bydd y Comisiynydd yn gallu creu rhyw fath o system lle mae modd erlyn pobl. Mae’n amlwg bod yna dorri cyfraith yn fan hyn. Cyrff cyhoeddus yw’r rhain – pobl sydd â chynlluniau iaith a pholisi.”