Mae dau o bobol wedi’u harestio a thair lori wedi’u hadfer yn dilyn ymgyrch ar y cyd rhwng Heddlu’r Gogledd a Heddlu Caer.

Fe wnaeth yr heddlu dderbyn galwad am 9.40pm ddydd Mawrth yn eu hysbysu bod tair lori Volvo wedi’u dwyn oddi ar gwmni cludo ym Mhorthmadog.

Ar ôl rhoi gwybod i Heddluoedd Caer a Dyfed Powys, gwelwyd y cerbydau yn teithio yn ardal Caer.

Cafodd un cerbyd ei stopio ar yr A56 am 10.20pm ac fe arestiwyd dau unigolyn cyn eu cludo i’r ddalfa yn Llanelwy.

Fe ddaeth yr Heddlu o hyd i’r ddau gerbyd arall wedi eu gadael yn Marsh Lane, Ince, Caer am tua wyth o’r gloch y bore yma.

“Rydym yn cydweithio’n agos â Heddlu Caer er mwyn ceisio dod o hyd i weddill y troseddwyr ac mae ein hymchwiliadau’n parhau,” meddai’r Ditectif Gareth Evans o Heddlu Gogledd Cymru.