Rhodri Glyn Thomas
 
Mae disgwyl penderfyniad ar ddyfodol y Cofnod yn fuan, yn ôl yr Aelod Cynulliad sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg ar Gomisiwn y Cynulliad.

Yn ôl Rhodri Glyn Thomas, mae potensial i ‘chwyldroi’ y ddarpariaeth Gymraeg.

“Rydyn ni’n ymwybodol bod yna ddisgwyliad i ni ddod i benderfyniad ar hynny ac rydyn ni wedi bod wrthi yn gwneud y gwaith paratoi, y gwaith ymchwil ynglŷn â sut yn ymarferol fydden ni’n mynd ati,” meddai ar ôl cyfarfod cyhoeddus i drafod Bil a chynllun dwyieithog newydd.

“Beth mae hynny wedi gwneud ydy agor posibiliadau nad oeddwn i’n ymwybodol ohonyn nhw cyn hynny ynglŷn â’r potensial, y modd y gallwn ni rannu’r hyn sydd yn digwydd o fewn y Cynulliad gyda chyrff a sefydliadau a mudiadau ledled Cymru. Dw i’n credu bod yna botensial i chwyldroi’r holl sefyllfa ynglyn â darparu deunydd yn ddwyieithog.”

Y gobaith, yn ôl Rhodri Glyn Thomas yw, ‘creu sefydliad cwbl ddwyieithog’. Un o’r rhesymau am gyflwyno’r bil yw’r ffaith fod y Mesur Iaith newydd wedi ei chyflwyno yn 2010 gan ddisodli’r hen Ddeddf Iaith a bod angen adlewyrchu hynny yng ngwaith y Cynulliad. 

Rhaid cael Cofnod dwyieithog        

Yn ôl Catrin Dafydd o Gymdeithas yr Iaith, a oedd yn y cyfarfod ymgynghorol ym Mae Caerdydd, mae angen ymrwymiad clir y bydd Y Cofnod yn rhan o’r ddeddfwriaeth newydd.

“Wedi ei hymgorffori yn y bil mae’n rhaid gweld ymrwymiad deddfwriaethol bod Y  Cofnod yn mynd i fod yn gyflawn ac yn ddwyieithog. Bydd hi ddim yn ddigon da os bydd e yn y cynllun fel gweithredu dwyieithrwydd achos bydd e ar fympwy pob Comisiwn ddaw a phob adolygiad o’r cynllun iaith,” meddai.

Mae Catrin Dafydd hefyd yn dweud bod cyfle gyda’r bil i’r Cynulliad osod esiampl o ran polisi dwyieithrwydd i sefydliadau eraill yng Nghymru.

“(Mae) yma gyfle i’r Cynulliad fod yn uchelgeisiol a sicrhau fod y staff i gyd yn gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Rhaid i’n prif gorff democrataidd ni osod esiampl i weddill cyrff a sefydliadau Cymru,” meddai.