Mae un o gyflwynwyr Radio Cymru wedi galw ar bobl i beidio â bod ofn siarad Cymraeg os ydyn nhw’n poeni fod eraill am feirniadu safon eu hiaith.

Yn ei araith ar lwyfan y Brifwyl heddiw (dydd Sadwrn), dywedodd Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy – cyflwynydd rhaglen Post Cyntaf Dylan Jones – bod diffyg hyder yn gwneud i rai pobl deimlo bod eu Cymraeg yn rhy wael i gael ei glywed mewn rhaglenni radio a theledu.

Meddai: “Rhywbeth sydd yn fy nhristau i yn fy ngwaith ar adegau ydi pobl sy’n deud nad ydi eu Cymraeg nhw yn ddigon da i neud cyfweliadau ar y radio neu deledu . . . teimlo’n ddihyder rhag ofn iddyn nhw gael eu beirniadu.

‘Ei siarad hi sy’n bwysig’

“Cyfrwng i gyfathrebu yn naturiol ydi iaith nid prawf gramadegol. Ei siarad hi sy’n bwysig.”

Dywedodd Mr Jones, sy’n wreiddiol o Gapel Garmon, Llanrwst, ond sy nawr yn byw gyda’i deulu yn Nyffryn Clwyd, ei bod hi yn bwysig bod rhaglenni newyddion fel Post Cyntaf yn parhau i roi lle i bob math o safbwyntiau.

Ychwanegodd bod cynnwys safbwyntiau amrywiol mewn rhaglenni yn bwysicach fyth pan mae cymaint o bobl yn cael eu newyddion o’r cyfryngau cymdeithasol, ac yn “dewis y safbwyntiau ma’ nhw am eu clywed . . . ac felly yn dewis anwybyddu yr ochor arall yn fwriadol.”

Roedd Mr Jones yn athro hanes a gwleidyddiaeth cyn ymuno â’r BBC. Mae o hefyd yn cyflwyno’r rhaglen bêl-droed Ar y Marc ar foreau Sadwrn.