Mae darn buddugol y gadair eleni yn alwad i’r gad tros annibyniaeth, yn ôl enillydd y brif wobr eisteddfodol.
Y prifardd a’r cyn-archdderwydd, T James Jones, a adnabyddir yn well fel Jim Parc Nest, gipiodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 2019 yn Llanrwst ddydd Gwener (Awst 9).
Gorwelion oedd y testun, ac mae’r darn, meddai’r beirniaid, yn “bortread llachar” o Iolo Morgannwg, sefydlydd yr orsedd.
Mae Jim Parc Nest yn dweud iddo gael ei “ddylanwadu’n fawr iawn” gan y sefyllfa wleidyddol sydd ohoni, ac mae’n credu y dylwn dynnu ar ddylanwad y bardd hanesyddol.
“Dw i’n edrych ar Iolo fel ffigwr a wnaeth gychwyn cenedlaetholdeb modern yng Nghymru,” meddai wrth golwg360. “Cenedlaetholdeb diwylliannol yn bendant.
“Roedd e’n casáu dylanwad Seisnigrwydd a Phrydeindod. Roedd yn ymladd yn gadarn iawn yn erbyn hyn. Mae’n rhaid bod hyn yn digwydd heddiw.”
Rheolau
Yng nghystadleuaeth y gadair does dim hawl gan ymgeiswyr sgwennu mwy na 250 o linellau, ac mi lwyddodd Jim Parc Nest a pharchu’r rheol hynny.
Ond, mi sgwennodd sawl talp o gyflwyniadau am Iolo Morgannwg mewn rhyddiaith ac yn ôl y beirniaid roedd wedi “herio” amodau’r gystadleuaeth yn hynny o beth.
Mae’r bardd buddugol yn dweud y gallai fod wedi sgwennu tipyn yn rhagor, ac mae’n dweud bod angen i’r rheolau newid.
“Dw i’n teimlo ei bod yn hen bryd i ni felly anghofio dweud ‘heb fod dros 250 o linellau’,” meddai. “Beth am ei gyfyngu i hyn a hyn o eiriau. Byddai’n lot gwell.
“Byddai’n rhoi lot mwy o ryddid i’r beirdd na bod nhw’n cael eu cyfyngu . . . Mi ofalais bod 250 o linellau yna, ond mi allai fod wedi mynd yn 300, a mwy, yn rhwydd iawn.”