Mae cannoedd o bobol wedi manteision ar y cyfle i ddod yn “ddinasyddion Llanrwst” ar Faes yr Eisteddfod eleni, yn ôl Swyddog Pasbort ffug.
I gyd-daro â’r brifwyl mae prosiect celf wedi cael ei gynnal trwy gydol yr wythnos er mwyn dathlu Llanrwst a’i hanes.
Roedd y dref yn groesfan bwysig rhwng dwy deyrnas Gwynedd ganrifoedd yn ôl, a gan dynnu ar hynny mae’r prosiect wedi bod yn darparu pasborts Llanrwst ar faes yr Eisteddfod.
Yn siarad â golwg360 mae un o swyddogion pasbort y maes wedi dweud bod llu o bobol wedi bod yn hawlio pasbort i Fwrdeistref Rydd Llanrwst, bob dydd.
“Mae wedi bod yn brysur brysur iawn,” meddai. “Mae rhwng 300 a 400 wedi bod yn ymweld bob dydd. Mae pobol wedi gwirioni dros y peth.
“Mae hynny’n cynnwys pobol yn y dre, a phobol sydd yn dod i’r Eisteddfod. Mae pawb isio pasbort Llanrwst.”
Pwrpas y pasborts?
Mae’r Swyddog Pasbort yn cyfaddef nad oes unrhyw ddefnydd ymarferol i’r pasbort, ond mae’n dweud ei fod yn “rhywbeth neis i’w gadw”.
Mae modd casglu stampiau gwahanol ar gyfer y pasborts mewn siopau yn Llanrwst, ac mae’r stampiau “hyfryd” yma wedi’u dylunio gan artistiaid.
Gallwch weld fideo am y pasborts islaw…