Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ddwyn beic cwad yn ardal Libanus ym Mhowys.

Roedd yr heddlu yn gwybod bod y beic yn teithio ar ffordd yr A40 i gyfeiriad Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, o ganlyniad i ddyfais tracio.

Fe wnaeth swyddogion o’r uned ffyrdd ddod o hyd iddo yn cael ei dynnu gan gerbyd ar ffordd yr A482 ger Crugybar.

Cafodd gyrrwr y cerbyd, dyn 32 oed o ardal Llandysul, ei arestio ar amheuaeth o ladrata.

Yn ddiweddarach wedyn, cafodd dyn 34 o ardal Llanwrda, hefyd ei arestio o dan yr un amheuaeth, cyn i’r heddlu ddod o hyd i bedwar beic cwad ychwanegol wrth archwilio eiddo yn yr un ardal.

“Mae’r pum beic bellach wedi cael eu meddiannu ar gyfer profion fforensig,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys.

“Mae’r ddau ddyn wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad wrth i ymholiadau’r heddlu barhau.”