Bu’r Prif Weinidog, David Cameron yn agor ffatri newydd Airbus gwerth £400 miliwn ym Mrychdyn yn Sir y Fflint heddiw.

Fe fydd 650 o bobol yn cael eu cyflogi yn y ffatri newydd a fydd yn adeiladu adenydd ar gyfer awyren newydd y cwmni, yr A350 sydd i fod i hedfan am y tro cynta’ yn 2013.

A’r gred yw y bydd y ffatri newydd hefyd yn helpu i ddiogelu’r 6,000 o swyddi sydd ar y safle cyfan – y gwaith cynhyrchu mwya’ yn y Deyrnas Unedig.

Bu  David Cameron yn rhoi teyrnged i weithwyr Airbus a dywedodd bod y ffatri newydd yn tanlinellu’r hyder sydd gan Airbus yn y gweithlu yn y DU.

Dywedodd ei fod yn croesawu’r agoriad sy’n rhan o raglen y Llywodraeth i  “greu twf economaidd cynaliadwy.”

‘Cwmni o safon’

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £29 miliwn yn y ffatri, i gefnogi gweithwyr, gan helpu iddyn nhw ailhyfforddi a chael y sgiliau sydd eu hangen i adeiladu’r adenydd.

Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru:  “Mae hwn yn ddiwrnod gwych i Airbus ac i Gymru.  Mae’r adenydd sy’n cael ei wneud yma yn ein dangos ar ein gorau – cwmni o safon rhyngwladol yma yng Nghymru yn gwneud cynnyrch fydd yn cael ei ddefnyddio ledled y byd.

“Mae gan Lywodraeth Cymru berthynas weithio glos gydag Airbus, sy’n gwmni pwysig i’r wlad.

“Dengys ein dull o weithio gydag Airbus sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i greu’r swyddi a’r twf y mae Cymru ei angen i ffynnu yn y byd modern.”