Mae Aelod Seneddol Llafur wedi galw ar y Llywodraeth i ddilyn arweiniad Cymru drwy godi tâl am fagiau plastig.
Cafodd y cwestiwn ei ofyn yn Nhy’r Cyffredin gan Jessica Morden yr Aelod Seneddol dros Ddwyrain Casnewydd, wrth iddi gyhuddo Llywodraeth San Steffan o newid eu safiad ar ailgylchu.
Dywedodd Jessica Morden mai pwrpas codi tâl am fagiau plastig oedd i annog pobl i ail-gylchu ac osgoi gwastraff.
Dywedodd yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd Caroline Spelman a byddai’r Llywodraeth yn edrych ar bolisi Cymru. Ond roedd hi’n gwadu bod y Llywodraeth wedi newid eu safiad ar ailgylchu.