Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau mai nhw sy’n gyfrifol am y gwastraff a gafodd ei ddympio y tu allan i Neuadd y Ddinas y bore yma.

Mae yna lawer o holi wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch y gwastraff, sy’n cynnwys hen fatresi, bocsys cardfwrdd a chadeiriau.

Ond mae’r cyfan, yn ôl Cyngor Caerdydd, yn rhan o ymgyrch newydd sy’n atgoffa pobol i gael gwared ar eu gwastraff yn gyfreithlon, neu fe allan nhw wynebu dirwy sylweddol.

Fe gafodd y stynt cyhoeddusrwydd ei drefnu i dynnu sylw at effaith yr holl wastraff sy’n cael ei adael yn anghyfreithlon.

Mae swyddogion y cyngor yn gorfod casglu hyd at bedair tunnell o wastraff sydd wedi cael ei ddympio’n anghyfreithlon oddi ar strydoedd Caerdydd bob dydd, medden nhw, a hynny ar gost o £150,000 bob blwyddyn.