Mae ymgyrchwyr yn galw ar Lwydoraeth San Steffan i ail-ystyried mesur a fyddai’n torri budd-daliadau tai i bobol.

Mae asiantaeth Cartrefi Cymunedol Cymru yn rhedeg Wythnos Gweithredu Lles yr wythnos hon, ac maen nhw wedi bod yn galw ar bobol i lobïo Llywodraeth San Steffan yn erbyn newidiadau a fyddai’n rhoi uchafswm ar lefel y budd-dal sy’n bosib ei gael, ac yn galw ar bobol i reoli mwy ar eu harian eu hunain.

Ond mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn credu y byddai’r Mesur Diwygio Lles yn “gwthio pobol i galedi” ac yn cynyddu costau’r Llywodraeth yn y tymor hir oherwydd byddai “mwy o ddigartrefedd a mwy o broblemau cymdeithasol.”

Mae’r mesur yn cael ei drafod gan Bwyllgor Tŷ’r Arglwyddi ar hyn o bryd. Amcanion y mesur, yn ôl y Llywodraeth, yw i “wella’r cymhellion i weithio, symleiddio’r system budd-daliadau a gostwng gwariant cyhoeddus.”

Rheoli eu harian eu hunain

Un o’r cynigion sydd wedi corddi Cartrefi Cymunedol Cymru yw’r bwriad i newid y ffordd o dalu budd-dal tai i bobol.

O dan y system bresennol, mae gan bobol yr opsiwn o dderbyn y budd-dal ar gyfer eu tŷ gyda gweddill eu taliadau budd, neu ei gael wedi ei dalu’n uniongyrchol i’w casglwr rhent. Y cynnig newydd yw fod pob budd-dal yn cael ei dalu’n uniongyrchol i bob un person, a’r person hwnnw wedyn yn gorfod sicrhau bod yr arian yn cael ei dalu i’r casglwr rhent.

Yn ôl Ian Duncan Smith AS, byddai hyn yn golygu bod pobol sy’n hawlio budd-dal yn derbyn mwy o gyfrifoldeb dros reoli eu cyllid, ac y byddai’r cyfrifoldeb hynny yn helpu hwyluso’r pontio i gyfrifoldebau cyffredin byd gwaith.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Cartrefi Cymunedol Cymru wrth Golwg 360 y byddai hynny yn debygol o “gynyddu dyledion personol ac ôl-ddyledion” i hawlwyr budd-dal.

“Os oes gan unigolyn swm o arian, ac maen nhw wedyn yn gorfod wynebu’r dewis o brynnu esgudiau ysgol i’w plant nhw, neu cadw’r arian wrth gefn er mwyn talu’r rhent ddiwedd y mis, mae’n mynd yn benderfyniad anodd er mwyn blaenoriaethu,” meddai’r llefarydd ar ran Cartrefi Cymunedol Cymru.

Ar hyn o bryd mae 91% o hawlwyr budd-dal yng Nghymru yn dewis cael eu rhent wedi ei dalu’n uniongyrchol i’w casglwyr rhent neu eu landlordiad, ac mae’r asiantaeth yn credu mai cam ffôl fyddai disgwyl i bobol wybod sut i reoli eu harian heb iddyn nhw gael unrhyw brofiad blaenorol.

“Gall hyn fyth a digwydd heb fod cynllun hefyd i addysgu pobol,” meddai’r llefarydd.

Uchafswm lefel budd-dal

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru hefyd yn gwrthwynebu’r cynnig yn y mesur i roi uchafswm ar fudd-daliadau person neu deulu.

Mae’r mesur yn cynnig selio’r uchafswm hyn ar amcangyfrif o enillion cyfartalog aelwyd sy’n gweithio.

“Ry’n ni eisiau i’r budd-dal ar gyfer tai cael ei dynnu o’r uchafswm hynny, er mwyn adlewyrchu’r ffaith fod costau tai yn newid o hyd,” meddai’r llefarydd wrth Golwg 360.

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn dweud y byddai derbyn y cynigion yma – a fyddai’n berthnasol ar draws y Deyrnas Unedig – yn effeithio’n arbennig ar Gymru oherwydd y toriadau yn y sector gyhoeddus, a dibyniaeth mawr Cymru ar y sector hwnnw.

Mae disgwyl i’r trafod am y cynnigion fynd ymlaen am wythnosau eto, wrth i Bwyllgor Ty’r Arglwyddi ystyried dros gant o newidiadau i’r mesur presennol.