Fe fydd un o’r rheiny sydd am herio Alun Ffred Jones am gadeiryddiaeth Plaid Cymru yn lansio ei ymgyrch yn ddiweddarach heddiw (Awst 7) yn nhref yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae’r Dr Dewi Evans wedi cael ei enwebu gan Gangen Gorllewin Caerdydd i geisio am y swydd, ac mae eisoes wedi rhannu rhywfaint o’i weledigaeth.

Tra’n siarad â golwg360 y mis diwethaf, dywedodd y byddai’n croesawu aelodau proffil uchel sydd wedi cael eu gwahardd yn ôl i’r Blaid.

A thra’n siarad ar drothwy’r digwyddiad heno, mae’n dweud ei fod am i’r blaid wneud “gwell ymdrech i gyfathrebu” â’i haelodau.

Mae’n credu ei fod yn “bwysig” bod y blaid yn gofyn am farn eu haelodau am bethau, ac mae’n awyddus i sefydlu “swyddfa barhaol uniongyrchol” yn y gogledd.

Y lansiad

Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio am 7.30yp yng nghanolfan gynhadledd Glasdir, Llanrwst.

Ymhlith y siaradwyr mae cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Heledd Gwyndaf, a’r Cynghorydd Llio Silyn.