Hywel Williams AS
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi cefnogi safiad cwpl o’r gogledd sydd wedi gwrthod arwyddo tystysgrif priodas, a hynny am nad oes yna dystysgrif ar gael yn y Gymraeg yn unig.

Yn y cylchgrawn Golwg mae Geraint Jones yn trafod ei benderfyniad i fwrw ymlaen gyda’i drefniadau i briodi Jina Gwyrfai yng Nhapel Tan y Coed Llanrug a llunio tystysgrif eu hunain sydd yn golygu nad ydyn nhw yn gyfreithiol wedi priodi.

Mae Hywel Williams yn credu fod y sefyllfa bresennol yn annheg.

“Y pwynt am hyn ydy mi fedri di gael dy dystysgrif yn Saesneg yn unig. Fedri di gael hi yn ddwyieithog efo’r Saesneg ar y top. Ond fedri di ddim ei chael hi yn ddwyieithog efo’r Gymraeg yn gyntaf na chwaith yn Gymraeg yn unig. Ac fel dogfen sydd yn cofnodi un o’r digwyddiadau pwysig yn dy fywyd di, dwi’n meddwl bod o yn hawl sylfaenol cael o yn dy ddewis iaith os ydy’r Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal, ”meddai.

‘Newid y gyfraith’

Dwy flynedd yn ôl fe gyflwynodd fesur preifat yngylch mater tebyg.

“Cwpl o flynyddoedd yn ôl nes i rhoi mesur preifat gerbron i ganiatau i bobl gael tystysgrif geni neu marwolaeth yn Gymraeg  neu yn ddwyieithog pan mae’r farwolaeth neu’r enedigaeth yna wedi digwydd yn Lloegr. Cymera di rwan rhywun o Bowys yn mynd drosodd i Amwythig i gael y babi yn yr ysbyty neu rhywun o’r gogledd sydd efo cyflwr difrifol ac sydd yn mynd i Lerwpl i gael triniaeth ac yn marw yn yr ysbyty.”

Ond fe wnaeth y mesur ddisgyn a hynny, meddai ef am nad oedd y llywodraeth ar y pryd yn fodlon rhoi amser i drafod y pwnc.

Dydy’r mater ddim wedi ei ddatganoli ac mae Aelod Seneddol Arfon yn rhagweld mai newid y gyfraith yw’r unig opsiwn.

“Dwi yn meddwl ella fysa rhaid newid y gyfraith a dwi ddim yn gweld y llywodraeth yma yn newid y gyfraith. Naill ai newid y gyfraith neu newid y rheoliadau, yr regulations.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg…