Prifardd y Goron ddoe, ydi enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen ym mhrifwyl Sir Conwy heddiw (dydd Mawrth, Awst 6).

Guto Dafydd o Bwllheli oedd yr unig un o’r ymgeiswyr oedd yn deilwng o’r wobr sy’n cael ei dyfarnu i awdur nofel â llinyn storïol cryf.

Mae ei nofel, Carafanio, “ar gyfandir arall” i wethiau drafft cyntaf y gweddill, meddai’r beirniaid, Haf Llewelyn, Dyfed Edwards a Llwyd Owen.

Mae’n cael ei disgifio fel cyfrol “onest, clyfar a deifiol” – weithiau’n hiraethus ac yn cyffwrdd pob emosiwn.

“Goleuni gwahanol” ysgrifennu yn Lloegr

Yn ôl Guto Dafydd mae’n deg dweud bod rhai cymariaethau i wneud rhwng y dilyniant o gerddi buddugol wnaeth ennill y Goron ddoe (Awst 5), a’r nofel Carafanio.

“Yn amlwg, fi ydi o a’r un math o hiwmor sydd yna… yr un math o agwedd at fywyd…

“Ond mae yna gymariaethau i’w gwneud – mae’r nofel yn un sydd wedi ei gosod yn Lloegr yn llwyr heblaw am y dechrau a’r diwedd.

“Mae ysgrifennu am Loegr ac yn Lloegr yn rhoi cyfle i chdi edrych ar dy fywyd Cymraeg chdi dy hun adref mewn goleuni gwahanol.

“Mae Lloegr yn genedl mor ddiddorol dw i’n meddwl fod yr ymateb creadigol iddyn nhw heb unrhyw ragfarn yn rhywbeth gwerth chweil i’w wneud hefyd.”