Mae dynes o ardal Pwllheli yn dweud ei bod hi wedi “dychryn” ar ôl iddi gael ei chynghori i adael siop yn y dref wrth ofyn am gymorth yn Gymraeg.

Roedd Glenys Jones, 68, yn siopa yng nghangen leol The Original Factory Shop ar y stryd fawr pan ddigwyddodd y digwyddiad brynhawn ddoe (dydd Llun, Awst 5).

Ar ôl gofyn i aelod o staff am gymorth, gan ddweud “sgiwsha fi”, mae’n honni iddi gael ymateb “mewn tôn ffyrnig” yn ei gorchymyn i newid i’r Saesneg.

Ychwanega iddi esbonio wrth y gweithiwr mai dim ond “excuse me” a ddywedodd, cyn i hwnnw ddadlau â hi a dweud: “If you don’t want to speak English you can get out”.

“Rwyf yn 68 mlwydd oed, yn lleol ac wedi gweithio ym Mhwllheli ers 53 o flynyddoedd ac erioed wedi cael neb yn siarad felma efo fi o’r blaen,” meddai Glenys Jones ar y wefan gymdeithasol, Facebook.

“Cefais fy siomi ac fy nychryn fod y ffasiwn beth wedi gallu digwydd ar ein stryd fawr leol.

“Rwyf am fynd a’r achos ymhellach gyda’r cwmni – ond teimlwn ei fod yn ddyletwydd [sic.] arnaf i rannu’r stori.”

ER GWYBODAETH – TRIGOLION PWLLHELI P’nawn heddiw mi oeddwn yn siopa ym Mhwllhei fe es i’r ‘Factrory Shop’ ar y stryd…

Posted by Glenys Jones on Monday, 5 August 2019

Mae golwg360 wedi gwneud cais am ymateb gan The Original Factory Shop.