Fe gostiodd troseddau gwledig yng Nghymru fwy na £2.3m yn 2018, sef cwymp o 7.1% ers y flwyddyn flaenorol.

Ond mae problemau yn dal i fodoli ac mae angen i ragor gael ei wneud i atal troseddwyr, meddai NFU Mutual.

Yn ôl adroddiad gan y cwmni yswiriant, y gost ar gyfer troseddau gwledig ledled gwledydd Prydain yn 2018 oedd £50m, sef cynnydd o 12% ers y flwyddyn flaenorol a’r ffigwr uchaf mewn saith mlynedd.

Yr eitemau mwyaf cyffredin sy’n cael eu dwyn yng Nghymru, meddai’r adroddiad wedyn, yw beiciau cwad, offer a da byw.

Ffermwyr yn pryderu

Yn ôl Aled Griffiths, asiant NFU Mutual yn Y Drenewydd, fod rhai ffermwyr bellach yn cyfuno dulliau technolegol modern gydag amddiffynfeydd corfforol er mwyn amddiffyn eu heiddo.

“Mae’r bygythiad o ddod yn ddioddefwr troseddau gwledig, yn ogystal ag adroddiadau cyson o gymeriadau amheus yn gwylio ffermwyr, yn achosi lefelau uchel o bryder ymhlith ffermwyr sy’n gwybod bod eu lleoliad yng nghefn gwlad yn eu gwneud yn agored i ymosodiadau,” meddai Aled Griffiths.

“Ein cyngor i bobol sy’n byw a gweithio yng nghefn gwlad yw i asesu eich mesurau diogelwch presennol yn rheolaidd, gan wneud gwelliannau lle mae eu hangen, bod yn wyliadwrus, a hysbysu’r heddlu am unrhyw weithgareddau amheus.”