Mae cerddi enillydd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy eleni, Guto Dafydd, yn dangos fod llonydd yn bwysig yng nghanol “holl ddadlau a checru’r byd”.

Mae ei gerddi yn tywys y darllenwyr o Drefor, ble gafodd y bardd ei fagu, yr holl ffordd ar hyd yr arfordir i Uwchmynydd.

“Y dyddiau yma mae ‘na gymaint o sŵn a chymaint o ddadlau, mae ‘na gymaint o gecru, ac efallai mae’n gwneud lles i rywun fod ar ei ben ei hun,” meddai Guto Dafydd wrth golwg360.

Mae’n mynd a’r darllenydd “rhwng y mynydd a’r môr, ac ar y dibyn” gan feddwl am y pentrefi a’r lleoliadau gwahanol mae o’n ei basio.

“Direidus”

Er yr holl bryfocio sydd i’w deimlo yng ngeiriau’r cerddi, does dim dicter ynddi, meddai Guto Dafydd.

“Faswn i ddim yn dweud bod yna ddicter o gwbl yn y cerddi, faswn i’n dweud eu bod nhw’n gerddi eithaf direidus. Does gen i ddim neges, does gen i ddim cenadwri dw i eisio perswadio pobol ohoni.

“Y cwbl dw i’n gwneud ydy cofio am y straeon dw i wedi clywed am y llefydd gwahanol yma. Ymateb i gael ambell syniad ar y ffordd, chwarae hefo syniadau a chwarae gyda’r darllenydd.

“Os ydy pobol eisio cymryd unrhyw beth allan o hynny – unrhyw bwyntiau – mae croeso iddyn nhw wneud.”

Yn ôl Guto Dafydd mae hi i fyny i’r darllenydd i ddehongli’r cerddi eu hunain, wrth drafod y pynciau crefyddol, personol a chymunedol sydd yn y darnau.

Cyfeiriad at soned R Williams Parry yw’r teitl Saer Nef sy’n “son am neud dy le dy hun mewn ffordd, creu rwbath paradwysaidd mewn ffordd,” meddai.