Mae criw Yes Cymru Abertawe yn cynnal parti traeth yn eu dinas eu hunain heddiw (dydd Sadwrn, Awst 3), wythnos yn unig ar ôl i filoedd o bobol heidio i Gaernarfon ar gyfer rali annibyniaeth Pawb Dan Un Faner.

Yn ôl y trefnwyr, mae’n gyfle i bobol sydd o blaid neu’n chwilfrydig am annibyniaeth ddod ynghyd mewn amgylchfyd positif.

Mae’n cael ei gynnal am 4 o’r gloch ger murlun Cofiwch Dryweryn ar brif draeth y ddinas.

Brwd neu chwilfrydig?

“Roedden ni’n meddwl y byddai parti traeth Yes Cymru yn ffordd wych o gyfarfod â phobol eraill sy’n frwd dros annibyniaeth a dod i’w hadnabod, ac i rannu profiadau a dysgu oddi wrthyn nhw,” meddai’r trefnwyr wrth golwg360.

“Mae hefyd yn ffordd hamddenol iawn i bobol sy’n chwilfrydig am annibyniaeth ddod i sgwrsio â ni.

“Mae’r cyfan oll yn argoeli i fod yn brofiad positif dros ben o blaid annibyniaeth, ac mae’n dda cael hwyl hefyd!”