Mae dyn 48 oed wedi cael ei gadw yn y ddalfa yn dilyn digwyddiad ym Mhontypridd.

Mae Jason Vincent o Aberdâr wedi’i gyhuddo o ymosod, ffrwgwd, ceisio cyflawni difrod troseddol ac o fod â chyffuriau dosbarth C yn ei feddiant.

Mae’n dilyn digwyddiad ym Mhontypridd ddydd Iau (Awst 1).

Aeth gerbron ynadon Merthyr Tudful ddoe.