Mae mudiad iaith wedi codi pryderon am fanc sydd wedi derbyn arian gan Lywodraeth Cymru, ac sydd ddim – medden nhw – yn “cydymffurfio ag unrhyw amodau iaith”.

Ym mis Ionawr mi dderbyniodd y banc digidol, Monzo, £950,000 gan y Llywodraeth Cymru er mwyn agor swyddfa a chreu 312 swydd yng Nghaerdydd.

Ynghlwm â’r buddsoddiad hwnnw oedd yr amod bod y banc yn darparu “gwasanaethau neu ddeunyddiau ysgrifenedig” yn y Gymraeg, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Ond dyw’r cwmni yn gwneud hynny, meddai’r mudiad, ac maen nhw wedi ceryddu Llywodraeth Cymru am fuddsoddi yn y banc yn y lle cyntaf.

“Mae’n gwbwl amlwg nad yw Monzo yn cydymffurfio ag unrhyw amodau iaith,” meddai Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith. “

“Does ganddyn nhw ddim gwasanaeth Cymraeg, ac mae [Gweinidog y Gymraeg] Eluned Morgan [wedi] golchi ei dwylo drwy gyfeirio’n cwyn at adran economi’r Llywodraeth…”

Cydymffurfio

Mae un o swyddogion Adran yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru wedi ymateb i gwynion yr ymgyrchwyr trwy ddweud bod Monzo yn cydymffurfio â’u gofynion.

“Dyfarnwyd y cynnig i Monzo yn seiliedig ar y dibenion canlynol,” meddai’r swyddog.

“’Diben y cyllid yw creu canolfan gweithrediadau cwsmeriaid (y dibenion) newydd mewn lleoliad yn ardal awdurdod lleol Dinas Caerdydd (y safle). Rhaid i chi ddefnyddio’r cyllid at y dibenion hyn yn unig’.

“Gallaf gadarnhau bod Monzo yn cydymffurfio â holl amodau’r grant a ddyfarnwyd iddo hyd yma.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Monzo am ymateb.