Mae cabinet Cyngor Sir Ceredigion wedi clustnodi £460,000 dros gyfnod o ddwy flynedd er mwyn adfer Neuadd y Farchnad Aberteifi.

Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Aberteifi sy’n derbyn yr arian. Mae’r neuadd yn adeilad rhestredig Gradd II, ac yn gartref i farchnad sydd â lle i 49 o stondinau.

Y Cyngor Sir sy’n berchen yr adeilad, ond Menter Aberteifi sy’n ei reoli fel rhan o gytundeb tair blynedd.

Mae disgwyl i’r holl waith adfer gostio hyd at £1.5m, ac mae gwerth £900,000 o arian Ewropeaidd eisoes wedi cael ei sicrhau, er bod cais am Gyllid Treftadaeth y Loteri gael ei wrthod.

‘Angen dybryd’

“Mae’n bwysig iawn ein bod ni wedi cytuno i dalu £460,000 am y prosiect gan ei fod yn dod â £990,000 arall i’r ardal,” meddai’r Cynghorydd Rhodri Evans, yr aelod cabinet â chyfrifoldeb dros Economi ac Adfywio.

“Pe na baem wedi gwneud hyn, byddai Ceredigion wedi colli bron £1m o gyllid allanol, ac ni fyddai’r neuadd yn cael y gwaith y mae ei angen yn ddybryd.”

Mae’r Cabinet wedi cytuno i dalu £460,000 tuag at y gwaith o adfer y neuadd.