Bu farw un o lywyddion anrhydeddus Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy – dridiau cyn i’r brifwyl agor ei drysau yn Llanrwst.

Roedd Maureen Hughes yn gyn-brifathrawes Ysgol Gynradd Maenan ac Ysgol Gynradd Rowen, ac yn athrawes gerddoriaeth ar genhedlaeth o blant a phobol ifanc yn y dyffryn.

Yn ogystal â bod yn arweinydd Cór Merched Carmel, roedd Maureen Hughes hefyd yn feirniad mewn eisteddfodau lleol.

Mae Cadeirydd Pwyllgor Gwaith y brifwyl eleni wedi talu teyrnged iddi ar ei dudalen Facebook:

Newyddion trist o golli un o gonglfeini y diwylliant Cymraeg yn Nyffryn Conwy a Chymru ac un o Lywyddion Anrhydeddus…

Posted by Trystan Lewis on Tuesday, 30 July 2019

Mae’r telynor, Dylan Cernyw, hefyd wedi bod yn cofio Maureen Hughes ar y cyfryngau cymdeithasol, gan nodi fod y newydd am ei marw yn torri fel yr oedd ymarfer olaf sioe gerdd Te yn y Grug yn digwydd ym mhafiliwn prifwyl 2019.

“Ddaru’r cast (a lot ohonynt yn ffrinidau a chyn ddisgyblion i Maureen!) ddal eu tîr heno yn arbennig. Fysa hi’n prowd iawn ohonoch i gyd!” meddai.