Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi dod dan y lach ar ôl honni y bydd yna farchnadoedd rhyngwladol newydd ar gael ar gyfer cynhyrchwyr cig oen Cymru wedi Brexit.

Mewn cyfweliad ar raglen Today ar Radio 4 heddiw, fe gyfeiriodd Aelod Seneddol Bro Morgannwg at y farchnad yn Japan sydd newydd agor ar gyfer ffermwyr defaid yng ngwledydd Prydain, gan awgrymu y gall hwnnw ehangu wedi Brexit.

“Fe hoffwn i gyfeirio at y farchnad yn Japan sydd newydd gael ei hagor i ffermwyr defaid Cymreig a Phrydeinig, er enghraifft,” meddai Alun Cairns.

“Dyma farchnad newydd i ni, felly mae allforion eisoes yn digwydd yno, ond dyma farchnad sylweddol yr ydyn ni heb hyd yn oed grafu ei hwyneb eto.”

Cyfweliad “cywilyddus”

Ymhlith yr rhai sydd wedi ymateb yn feirniadol i sylwadau Alun Cairns mae Aelod Seneddol Dwyfor-Meirionnydd, Liz Saville Roberts.

Mae wedi cyfeirio at y ffaith mai cytundeb gan yr Undeb Ewropeaidd a sicrhaodd fod masnach rhwng Japan a chynhyrchwyr cig oen Cymru yn bodoli yn y lle cyntaf.

Mae un o brif ohebwyr The Times, Catherine Philp, hefyd wedi cyfeirio at yr un ffaith, gan ddisgrifio cyfweliad Alun Cairns fel un “cywilyddus”.

Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedyn, roedd y cyfweliad yn dangos y “peryglon fydd Brexit ‘dim cytundeb’ yn ei greu i’r economi Gymreig”.

“Does ganddo ddim cydnabyddiaeth i’r bywoliaethau sydd yn y fantol, dim ymatebion o ddifrif, a dim cynllun ar gyfer ffermwyr Cymru,” meddai Mark Drakeford.

“Ond mae ei swydd yn y Cabinet yn ddiogel dim ots beth fydd yn digwydd.”