Mae disgwyl i Boris Johnson ymweld â Chymru am y tro cyntaf fel Prif Weinidog gwledydd Prydain heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 30) – ac mae disgwyl iddo addo y bydd amaeth yng Nghymru yn “ffynnu” ar ôl Brexit.

Fe fydd Boris Johnson hefyd yn cyfarfod Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

Daw’r ymweliad i drafod ffermydd Cymru yn dilyn rhybudd llywydd Undeb Ffermwyr Cymru y byddai “”aflonyddwch sifil” yn ardaloedd gwledig Cymru os yw gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb fargen.

Yr ymweliad yw’r diweddaraf fel rhan o daith Boris Johnson o gwmpas gwledydd Prydain yn dilyn taith i’r Alban ar ddechrau’r wythnos.

Dywedodd y Prif Weinidog ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 29) bod “posibilrwydd go iawn” y gall cytundeb Brexit gael ei sicrhau ond bod y cytundeb presennol gyda’r Undeb Ewropeaidd “yn gorfod mynd.”

Daw’r ymweliad deuddydd cyn isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed ddydd Iau (Awst 1).

“Cytundeb masnach newydd”

O flaen ei ymweliad i Gymru dywedodd Boris Johnson y byddai “bob tro’n cefnogi ffermwyr gwych gwledydd Prydain,” ac wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, bod “angen i ni wneud yn siŵr bod Brexit yn gweithio iddyn nhw.”

“Mae hynny’n golygu cael gwared â’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) ac arwyddo cytundebau masnach newydd. Bydd ein sector bwyd a ffermio anhygoel yn barod ac yn disgwyl i ni barhau i werthu mwy nid yn unig yma ond o gwmpas y byd.

“Unwaith y byddwn yn gadael yr UE ar 31 Hydref, bydd gennym ni gyfle hanesyddol i gyflwyno cynlluniau newydd i gefnogi ffermio – a byddwn yn sicrhau y bydd ffermwyr yn cael cytundeb gwell.”

Ar hyn o bryd, Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol am amaeth y wlad ac am be fydd yn dod yn lle cymorthdaliadau ffermio

Mae Gweinidogion Cymru yn dweud y bydd prif gynllun cymhorthdal ffermwyr Cymru yn cael ei sgrapio ar ôl Brexit.

Mae ffermwyr Cymru yn derbyn cymorthdaliadau o tua £300m gan yr UE a does dim sicrwydd eto faint o arian fydd ar gael i gefnogi amaethyddiaeth ar ôl Brexit.