Mae undeb ffermwyr wedi mynegi pryder ynglŷn â’r bwriad i gau marchnad anifeiliaid hanesyddol yn y Bontfaen.

Bwriad Cyngor Bro Morgannwg yw troi safle’r farchnad yn faes parcio newydd ar gyfer siopwyr y dref.

Ond yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), bydd amddifadu ffermwyr lleol o unig farchnad barhaol y sir yn golygu y bydd yn rhaid iddyn nhw ymgymryd a siwrne gron o 45 milltir er mwyn gwerthu a phrynu anifeiliaid.

Er bod yna drafodaethau i adleoli’r farchnad, does dim cynlluniau cadarn hyd yn hyn, meddai’r undeb.

“Mae gennym bryder y gall y cam hwn ddod â masnachu yn y Bontfaen i ben,” meddai Rachel Saunders o’r gangen leol o’r FUW.

“Dyma rywbeth a fydd yn costio i’n ffermwyr lleol sydd, yn barod, o dan bwysau oherwydd yr ansefydlogrwydd yng ngwerthiant cig coch wedi Brexit.

“Ar hyn o bryd, mae’r safle yn rhoi’r cyfle i werthu da byw i brynwyr yn uniongyrchol, ond os bydd hi’n cau, yr opsiwn agosaf yw Rhaglan, Caerfyrddin neu Aberhonddu, a bydd hynny’n golygu costau ychwanegol i’n haelodau.”